Fel merch o Ddyffryn Clwyd, mae’r cyfnod yma’n un prysur i ni adref ar y fferm. Cyfnod yr wyna yma yn Groes ger Dinbych! Felly am bythefnos bob blwyddyn, mae’r gwaith cysylltiadau cyhoeddus yn rhannu gofod, wrth i mi symud fel io-io rhwng y swyddfa yn y sgubor a’r sied ddefaid.
Mae’n draddodiad ac arferiad tymhorol cefn gwlad ond yn ffodus, mae’r genhedlaeth nesaf yma yn Tywysog yn prysur arwain y ffordd, wrth i’r hogia gymryd rôl fwy amlwg adref, i gynorthwyo Rhodri, y gŵr, a minnau.
Nôl yn y sgubor, mae’r gwaith cysylltiadau cyhoeddus yn parhau a does byth yr un diwrnod yr un fath. Prosiectau cydweithio sy’n mynd â llawer o’r amser ar y funud gydag Anthony a’r tîm yn Outwrite. Wrth i ddiwedd blwyddyn ariannol agosáu, mae’r bwrlwm arferol yn cyrraedd o fyd busnes, bod prosiectau angen eu cwblhau a chyfle am sylw yn y wasg i hyrwyddo’r gwaith!
Un cytundeb cydweithio sy’n ein cadw’n brysur yw gwaith cyfathrebu cymdeithas dai Grŵp Cynefin. Mae nifer o brosiectau datblygu yn cyrraedd eu penllanw y mis hwn: cwblhau cynllun gofal ychwanegol pobl hŷn ym Mhorthmadog; hyrwyddo cynhadledd i rannu arfer da am waith pontio cenedlaethau gyda phlant a phobl hŷn yn Llys Awelon, Rhuthun; a thai modiwlar arloesol newydd yng Nghynwyd, ger Corwen.
Fel gwraig fusnes gychwynnodd y cwmni 13 mlynedd yn ôl, mae’r cyswllt agos gydag Outwrite yn dyddio nôl llawer pellach.
Mae bron i 20 mlynedd ers i ni gydweithio ar gynlluniau marchnata tra roeddwn yn gweithio’n gyflogedig fel Rheolwr Marchnata i Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Doedd dim syniad gennym, bryd hynny, y byddai’r berthynas glos yn parhau cyhyd.
Ac, mae datblygiad ym maes technoleg wedi sicrhau ein bod yn parhau i gydweithio trwy gynorthwyo cwmnïau gydag ymgyrchoedd marchnata digidol dwyieithog a chyflwyno hyfforddiant cysylltiadau cyhoeddus ymarferol i gleientiaid sy’n awyddus i ddysgu sut i wella eu perfformiadau cyfweliad o flaen y camera, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fel soniais, does byth yr un diwrnod yr un fath yma’n y sgubor.
Rhaid tewi am y tro, wrth i floedd gyrraedd am help llaw fach i dynnu oen bach newydd i’r byd!
Ffeithiau am Ffion
- Gradd BA anrhydedd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth
- Cadeirydd Pwyllgor Apêl Bro Aled, Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019
- Enillydd cenedlaethol am lefaru ar sawl achlysur
- Hyfforddwraig tîm buddugol Siarad Cyhoeddus CFfI Cymru 2018